
|
SPECSAVER’S YN NODDI
CYNGERDD AGORIADOL EISTEDDFOD YR URDD
Mae cwmni Specsaver’s sydd â 27 o siopau ar hyd de Cymru wedi cytuno
i noddi cyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd 2005.
Bydd y gyngerdd - Sain, Cerdd a Sioe yn cael ei chynnal yn Theatr
Donald Gordon, prif theatr Canolfan Mileniwm Cymru am 7.00 nos Sul
29 Mai.
Bydd rhai o aelodau'r Urdd yn ymuno hefo rhai o sêr mwyaf y theatr
a'r sgrîn fach, a chyn enillwyr rhai o brif gystadleuthau'r ŵyl yn
ymuno hefo cast Theatr Ieuenctid yr Urdd, mewn un llwyfaniad lliwgar
fydd yn croesawu'r ŵyl i'r brifddinas, a'r Eisteddfod ar ei newydd
wedd.
Dyma gyfle arbennig i weld enwau fel Aled Jones a Daniel Evans, y
ddau wedi bwrw eu prentisiaeth ar lwyfannau’r Urdd, yn ymuno â chast
o dros 300 o bobl ifanc i ganu detholiad o ganeuon mwyaf poblogaidd
o’r sioeau cerdd – Cabaret, Les Miserables, Joseff a’i Gôt Amryliw,
Jiwdas, Nia Ben Aur a Chicago ac enwi dim ond rhai.
Bydd rhai o gyn-enillwyr yr Urdd hefyd yn cymryd rhan flaenllaw yn y
gyngerdd gan gynnwys Huw Euron, sydd wedi ennill BAFTA yn ddiweddar,
Mirain Haf, Catrin Evans, Catherine Ayres, Aled Pedrick, Tara Bethan,
Rhian Mair Lewis a chorau CF1, Glanaethwy, Ysgol Gymraeg Aberystwyth
ac Ysgol Melin Gruffydd gan addo noson arbennig.
Meddai Eurfyl Lewis, Cyfarwyddwr Datblygu Urdd Gobaith Cymru:
“Ry’ ni yn hynod o falch fod cwmni Specsaver's wedi penderfynu
cefnogi y gyngerdd arbennig hon yn yr Eisteddfod. Hoffwn ddiolch
iddynt am eu rhodd hael a fydd yn sicrhau cyngerdd agoriadol
arbennig a dechrau gwych i Eisteddfod arloesol.”
Cafodd Doug Perkins, Rheolwr Gyfarwyddwr a Chadeirydd Specsaver’s ei
eni yn Rhydaman, cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe
ddechreuodd y cwmni optegydd mwyaf ym Mhrydain yn 1984.
Dywedodd Anne Lowndes, Cadeirydd Rhanbarthol Specsaver’s yng Nghymru
bod y cwmni yn falch iawn o’i wreiddiau Cymreig ac yn gweld
pwysigrwydd cefnogi’r gymuned.
“Eisteddfod yr Urdd yw un o’r prif ddigwyddiadau diwylliannol ar
gyfer pobl ifanc yng Nghymru ac mae Specsaver’s yn falch iawn o gael
bod yn rhan o ddathliadau agoriadol yr Eisteddfod eleni.”
Am fwy o fanylion cysylltwch â Siân Eleri Davies ar 07976 330360 neu
Eurgain Haf ar 07747 638405
View in English
|